Cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar y Celfyddydau ac Iechyd – 23 Hydref 2023
11:00
Yn bresennol
Jayne Bryant (Cadeirydd), Aelod o’r Senedd
Sally Lewis, Cyngor Celfyddydau Cymru
Angela Rogers, Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru (WAHWN)
Johan Skre, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Lucy Bevan, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Lucy Coles, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Kathryn Lambert, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Sofia Vougioukalou, Prifysgol Caerdydd
Simone Joslyn, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Elinor Lloyd, Cyngor Celfyddydau Cymru (gwneud y cofnodion)
Charlotte Knight, Swyddfa Jayne Bryant AS
Heather Ferguson, Age Cymru
Sharon Davies, Llywodraeth Cymru
Sally Thelwell, Ymddiriedolaeth GIG Felindre
Andrea Davies, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Maggie Russell, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru
Kate Newman, Gofal Cymdeithasol Cymru
Nesta Lloyd-Jones, Conffederasiwn GIG Cymru
Prue Thimbleby, aelod o Gyngor Celfyddydau Cymru
Mario Krefft, Cyfarwyddwr Cartrefi Gofal Parc Pendine
Sarah Edwards, Artist Preswyl, Parc Pendine
Hannah Moscrop, Rheolwr Prosiect, Ymchwil, Datblygu ac Arloesi, Canolfan Ganser Felindre
Owen Thomas, Swyddfa John Griffiths AS
Ryland Doyle, Swyddfa Mike Hedges AS
Timothy Jenkins, Llywodraeth Cymru
Croeso a chyflwyniadau
Croesawyd pawb i’r cyfarfod gan Jayne Bryant, Cadeirydd y grŵp. Nodwyd yr ymddiheuriadau a ddaeth i law, yn unol â’r uchod.
Cofnodion y cyfarfod diwethaf – 11 Gorffennaf 2023
Cytunodd y Grŵp fod cofnodion y cyfarfod diwethaf yn gywir.
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
Diolchodd Sally Lewis i Jayne am ei hymrwymiad cadarn i'r celfyddydau ac iechyd, ac am ei harweinyddiaeth fel Cadeirydd y grŵp dros y flwyddyn ddiwethaf. Cynigiodd Sally fod Jayne Bryant yn cael ei hailethol yn Gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar y Celfyddydau ac Iechyd. Cafodd y cynnig hwn ei eilio gan Prue Thimbleby, a’i gytuno’n unfrydol gan y rhai a oedd yn bresennol. Yna, gofynnodd y Cadeirydd i aelodau’r grŵp a oeddent yn fodlon bod Elinor Lloyd-Davies o Gyngor Celfyddydau Cymru yn cael ei hailethol yn Ysgrifennydd y grŵp. Cafodd y cynnig hwn ei eilio gan Prue Thimbleby ac Angela Rogers, a’i gytuno gan y rhai a oedd yn bresennol.
Daeth gweithgarwch ffurfiol y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol i ben. Yna, croesawodd Jayne y siaradwyr gwadd, gan gyflwyno thema’r cyfarfod, sef 'Y Celfyddydau ac Iechyd mewn Cartrefi Gofal.'
Gwnaeth Heather Ferguson, pennaeth polisi a phrosiectau Age Cymru, amlinellu hanes balch Age Cymru o wneud gwaith creadigol mewn cartrefi gofal, gan dynnu sylw at raglen cARTrefu, sef rhaglen (a gefnogir gan Sefydliad Baring a Chyngor Celfyddydau Cymru dros gyfnod o 6 blynedd) a oedd yn cynnwys mwy na thraean o’r holl gartrefi gofal yng Nghymru. Yn ôl ymarfer gwerthuso a gynhaliwyd gan Brifysgol Bangor, ceir elw cymdeithasol gwerth £6.48 am bob £1 a fuddsoddir. Ym mis Chwefror 2022, dathlodd Age Cymru 6 mlynedd o’r rhaglen cARTrefu drwy gynnal Arddangosfa Rithwir. Yn fwy diweddar, cynhaliodd Age Cymru drafodaeth bord gron, gan gyfnewid ymarfer ym maes heneiddio creadigol gyda chydweithwyr o’r Ffindir a Chymru.
Lansiodd Age Cymru bapur polisi ar y celfyddydau mewn cartrefi gofal ym mis Medi 2023. Mae’r papur yn galw am sicrhau bod gweithgareddau celfyddydol a diwylliannol ar gael ym mhob cartref gofal. Mae’r canfyddiadau ac argymhellion allweddol yn cynnwys yr angen i gydnabod cydlynwyr gweithgareddau fel aelodau gwerthfawr o'r sector gofal; ariannu gweithgareddau creadigol, artistiaid proffesiynol a rhwydweithiau cymorth; pwysigrwydd canolog cynnal sgyrsiau ystyrlon gyda phreswylwyr (yn enwedig ar yr adeg pan fydd pobl yn trosglwyddo i gartrefi gofal), gan gynnwys ffocws ar eu diddordebau ac anghenion creadigol a diwylliannol; cynyddu amlygrwydd preswylwyr cartrefi gofal fel nad ydynt yn cael eu hanghofio gan ddarparwyr gweithgareddau diwylliannol; a meithrin gwell cysylltiadau rhwng cartrefi gofal a’u cymunedau.
Yn 2023, cyhoeddodd Age Cymru ymchwil ar lesiant ac iechyd meddwl mewn cartrefi gofal, sy’n manylu ar brofiadau preswylwyr cartrefi gofal yn ystod y pandemig. Mae'r prosiect Dweud mwy wrthyf wedi rhoi llais i breswylwyr, ynghyd â mewnwelediad i’r effaith ar eu hiechyd meddwl yn ystod y cyfnod COVID, a’r anawsterau y mae pobl yn eu hwynebu o bryd i’w gilydd wrth geisio cael mynediad at gymorth iechyd meddwl i oedolion hŷn mewn cartrefi gofal.
Diolchodd y Cadeirydd i Heather am ei chyflwyniad, a oedd yn llawn gwybodaeth, a rhoddodd ganmoliaeth i sefydliad Age Cymru am ei waith a'r bartneriaeth barhaus gyda'r Ffindir. Yna, gwahoddodd y Cadeirydd aelodau’r grŵp i ofyn cwestiynau.
Gofynnodd Nesta Lloyd-Jones am y broses o hyfforddi staff a phwysigrwydd bod yn ymwybodol o'r hyn sydd ar gael a phwysigrwydd arloesi. Cytunodd HF fod hyn yn hanfodol, gan dynnu sylw at bwysigrwydd cefnogi gwirfoddolwyr hefyd a defnyddio rhwydweithiau i rannu arfer da.
Nododd SL fod model y Ffindir yn ysbrydoledig gan fod cyllideb yn cael ei rhannu rhwng diwylliant a gofal cymdeithasol, a chan fod gofyniad ar gartrefi gofal i ystyried anghenion diwylliannol preswylwyr ochr yn ochr â'u hanghenion meddygol.
Pwysleisiodd HF pa mor bwysig yw hi i sefydliadau celfyddydol beidio â diystyru cartrefi gofal (gan feddwl bod eu hanghenion wedi’i diwallu). Mae gweithgarwch grwpiau ffydd lleol yn agwedd bwysig ar fywydau llawer o bobl hŷn, ond mae’r cysylltiad hwnnw’n aml yn cael ei golli pan fydd person yn symud i gartref gofal. Mae angen hyfforddiant pellach ar sefydliadau celfyddydol i'w hannog i ymgysylltu â chartrefi gofal.
Tynnodd Kate Newman o sefydliad Gofal Cymdeithasol Cymru sylw at y ffaith bod staff yn elwa ar weithgareddau creadigol hefyd, ac y byddai ganddi ddiddordeb mewn clywed gan bobl sy’n cynnwys staff mewn gweithgareddau diwylliannol a gaiff eu hwyluso gan gydlynwyr gweithgareddau ac eraill.
Diolchodd Maggie Russell, Cadeirydd Cyngor y Celfyddydau, i bawb am gynnal trafodaeth mor berthnasol ac ysgogol. Nododd MR y byddai’n cwrdd â Sue Evans, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru, cyn bo hir, ac y byddai'n manteisio ar y cyfle i archwilio nifer o'r pwyntiau a drafodwyd yn y cyfarfod hwnnw.
Dywedodd Angela Rogers fod Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru yn datblygu rhaglen o dan y teitl ‘Heneiddio Creadigol: Hadau’r Newid’ er mwyn meithrin cysylltiadau strategol rhwng Iwerddon, y Ffindir a Chymru yng nghyd-destun heneiddio creadigol.
Mario Krefft, Cyfarwyddwr Cartrefi Gofal Parc Pendine a Chadeirydd Fforwm Gofal Cymru
Rhoddodd Mario drosolwg o’i waith arloesol yn y sector cartrefi gofal ers dros 38 mlynedd. Mae Mario wedi creu grŵp gofal mawr ar draws Gogledd Cymru – Sefydliad Gofal Parc Pendine – sydd bellach yn cynnwys chwe chartref gofal arbenigol, gan gynnwys cartrefi penodol ar gyfer gofal dementia, gofal nyrsio ac iechyd meddwl.Mae Parc Pendine yn cymhwyso’r egwyddorion sy’n deillio o ganfyddiadau (1997) Mike Nolan (‘Y Fframwaith Synhwyrau: gwella gofal ar gyfer pobl hŷn drwy ddull sy'n canolbwyntio ar berthnasoedd’) ar draws y sefydliad cyfan. Y 6 synnwyr gofal yw: diogelwch, parhad, perthyn, pwrpas, cyflawniad ac arwyddocâd, ac maent yr un mor berthnasol i breswylwyr a staff. Mae'r dull hwn yn cynnwys buddsoddi mewn hyfforddi a datblygu staff, gan roi gwerth ar y gweithgarwch hwn, yn ogystal â'r perthnasoedd a gaiff eu meithrin rhwng staff a phreswylwyr.
Mae Ymddiriedolaeth Celfyddydau a Chymuned Pendine wedi cydweithio ag Eisteddfod Llangollen, ac mae ei gwaith o ran hyrwyddo’r celfyddydau ym maes gofal cymdeithasol wedi cael ei gydnabod drwy amrywiol wobrau. Yn hytrach na chyflogi cydlynwyr gweithgareddau, mae Parc Pendine yn cyflogi ymarferwyr creadigol / cerddorion preswyl. Pwysleisiodd Mario yr angen i arweinwyr ymrwymo i’r cynllun er mwyn cyflawni newid sylweddol a gwreiddio'r celfyddydau mewn cartrefi gofal yn drylwyr. Rhaid i arweinwyr hyrwyddo ymdrechion i ddarparu gweithgarwch celfyddydol mewn cartrefi gofal. Mae’r model ariannu ar gyfer cartrefi gofal yn heriol ac yn amrywio ar draws sector sy’n cynnwys cymysgedd o gartrefi a ariennir gan awdurdodau lleol a chartrefi sy’n eiddo preifat. Mae cartrefi gofal yn parhau i brofi trafferthion ers COVID. Nid yw’r gost o ddarparu gweithgarwch creadigol ym mywydau bob dydd preswylwyr o reidrwydd yn cael ei gynnwys mewn ffioedd preswylwyr, sy'n cael eu costio'n unigol gan bob awdurdod lleol, gan gynnwys ffi atodol fach iawn. Yn Wrecsam, mae Pendine yn ariannu'r gweithgarwch creadigol gan ei fod yn gwybod ei fod yn gweithio, ac yn gwybod mai dyma'r peth iawn i'w wneud. Fodd bynnag, nid yw pob cartref gofal yn blaenoriaethu creadigrwydd a'r celfyddydau yn sgil pwysau ariannol mewn meysydd eraill. Ym Mharc Pendine, mae’r celfyddydau wrth wraidd yr hyn a wnânt – yr edau aur sy'n rhedeg drwy'r gofal. Mae’r gam o gynnwys y celfyddydau yn y cynnig gofal hefyd yn gwneud synnwyr busnes da, ac mae Pendine wedi datblygu pecynnau cymorth syml i ddangos y gwahaniaeth y gall y celfyddydau ei wneud.
Sarah Edwards, Artist Preswyl, Parc Pendine
Gan adlewyrchu ar ei phrofiad fel artist preswyl ym Mharc Pendine ers 1995, dywedodd Sarah ei bod wedi gweld newid cadarnhaol sylweddol mewn perthynas â’r celfyddydau a chreadigrwydd. Dros amser, mae’r amheuon a gafodd eu mynegi yn gychwynnol wedi cael eu goresgyn yn sgil yr effaith gadarnhaol y mae'r celfyddydau wedi'i chael ar lefelau ymgysylltu a hapusrwydd preswylwyr. Mae dull gweithredu Pendine yn seiliedig ar ofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac wedi’i deilwra i anghenion pob person. Mae’r cwmni yn cynnwys staff ac yn eu grymuso i rannu eu sgiliau yn eu gwaith bob dydd, gan wneud eu rolau yn fwy diddorol, gyda llai o ffocws ar dasgau. Mae gweithred mor syml â dewis yr orsaf radio gywir yn gallu gwneud byd o wahaniaeth i breswylydd. Mae Pendine yn blaenoriaethu llesiant ac yn ymdrechu i greu amgylchedd gwaith gwell. Mae’r broses o feithrin cysylltiadau â sefydliadau diwylliannol yn bwysig. Mae gan Pendine berthynas gref â Cherddorfa Halle, sydd wedi ymweld â'r cartref gofal i greu 'lluniau sain'. Cafodd y preswylwyr gyfle i arwain y cerddorion, a oedd yn brofiad hwyliog, grymusol a phwrpasol. Mae prosiectau aml-genhedlaeth (gan gynnwys prosiectau gydag ysgolion, colegau a'r gymuned leol) hefyd wedi bod yn hynod bwysig. Mae preswylwyr Pendine wedi cymryd rhan yng ngŵyl gerddoriaeth ryngwladol Gogledd Cymru (lle buont yn creu cynfas i’w harddangos yn yr eglwys gadeiriol). Yn fyr, mae Sarah yn gweld y broses o gynnig sesiynau celfyddydol mewn cartrefi gofal fel elfen hanfodol o ddarparu gofal cymdeithasol.
Trafodaeth, cwestiynau a chamau gweithredu
Diolchodd Prue Thimbleby i'r siaradwyr, gan ganmol eu gwaith a chan gydnabod, yn seiliedig ar ei phrofiadau ei hun, yr heriau o weithio yn y sector.
Cytunodd Sally Lewis, gan nodi bod y cyflwyniadau’n ysbrydoledig a bod angen rhannu’r arfer rhagorol hwn yn ehangach. Yn ogystal, gofynnodd i Sarah roi syniad o sut beth yw rôl artist preswyl mewn cartref gofal.
Eglurodd Sarah ei bod hi'n rôl amser llawn sy'n caniatáu iddi ymgysylltu â'r preswylwyr am oddeutu hanner yr wythnos. Mae wedi meithrin amrywiaeth o berthnasoedd cymunedol gyda cherddorion, ac wedi comisiynu celf i wella dyluniad mewnol yr adeiladau. Mae hi'n cydlynu gweithgareddau gyda staff, gan sicrhau eu bod yn gysylltiedig â themâu / digwyddiadau perthnasol yn y calendr. Roedd Sarah wedi ymwneud â chyfleuster dementia arbenigol Pendine. Mae Pendine yn hyrwyddo'r 'chwe synnwyr gofal' ac yn rhoi pwyslais mawr ar ansawdd bywyd y preswylwyr, yn ogystal â chyfoethogi bywydau’r staff.
Dywedodd Sofia Vougioukalou wrth y grŵp fod gan Brifysgol Caerdydd ganolfan ymchwil newydd ym maes gofal cymdeithasol i oedolion, ac y byddai wrth ei bodd yn clywed awgrymiadau am waith ymchwil. https://cascadewales.org/cy/care-cy/
Gofynnodd Kate Newman i'r grŵp rannu gwybodaeth am wobrau Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer 2024ac annog enwebiadau ar gyfer unrhyw waith celfyddydol/creadigol y gellid ei gynnig.
Gwnaeth Sally Lewis atgoffa’r grŵp hefyd fod Cronfa Loteri’r Celfyddydau, Iechyd a Lles, sy’n un o gronfeydd Cyngor Celfyddydau Cymru, yn gallu cefnogi partneriaethau rhwng sefydliadau celfyddydol a chartrefi gofal er mwyn darparu gweithgarwch creadigol. Y dyddiad cau nesaf fydd 17 Ionawr 17 2024.
Awgrymwyd bod y grŵp yn ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog er mwyn tynnu sylw at y materion a godwyd a’i gwahodd i gyfarfod yn y dyfodol. Awgrymwyd hefyd fod yr arfer da yn cael ei rannu â hi ymlaen llaw.
Cam gweithredu: Gwahodd y Dirprwy Weinidog i un o gyfarfodydd y grŵp trawsbleidiol yn y dyfodol.
Y wybodaeth ddiweddaraf gan bartneriaid
Diolchodd y Cadeirydd i bawb a oedd wedi cyflwyno adroddiadau partner a oedd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf. Cytunodd Sally Lewis, gan nodi bod yr adroddiadau’n tynnu sylw at y gwaith anhygoel sydd ar y gweill ledled Cymru (gan gynnwys rhaglenni sydd wedi ennill gwobrau), a chan annog y grŵp i gymryd amser i’w darllen.
Unrhyw fater arall
Diolchodd y Cadeirydd i bawb am fod yn bresennol a daeth â’r cyfarfod i ben. Cynhelir y cyfarfod nesaf ar Zoom ar 24 Ebrill 2024.